Holiadur Cronfa Fuddsoddi Gymreig
Cronfa Fuddsoddi Gymreig
Mae nifer cynyddol o bobl yn dechrau holi os yw ffyrdd traddodiadol y Cymry o gynilo a buddsoddi arian yn sicrhau‘r fantais orau i‘r economi yng Nghymru. Ar y cyfan, mae elw‘r cwmnïau mawrion yn llifo o Dde-Ddwyrain Lloegr a rhanbarthau neu wledydd eraill tu hwnt i Glawdd Offa, ond a fyddai pobl Cymru yn barod i newid eu harferion buddsoddi? A fyddai diddordeb ganddynt gefnogi cronfa fyddai‘n creu elw er mwyn buddsoddi mewn cwmnïau Cymreig?
Mae Menter a Busnes, ynghyd â dau gwmni blaenllaw arall sydd yn ymwneud â gwahanol elfennau o ddatblygu‘r economi yng Nghymru yn cynnal arolwg i asesu dichonolrwydd sefydlu Cronfa Fuddsoddi Gymreig. Mae‘r tri chwmni eisoes wedi comisiynu adroddiadau ar arferion buddsoddi pobl mewn rhannau o Gymru ynghyd â?r cyflenwad cyfalaf presennol sydd ar gael i fusnesau a‘r galw sydd amdano.
Fe fydd union natur y Gronfa yn ddibynnol ar ganlyniadau ymchwil bellach, ond rhagdybir rhyw fath o endid cyhoeddus gyda chyfranddalwyr a Bwrdd o Gyfarwyddwyr.
Rhagdybir hefyd y byddai‘r gronfa yn dewis buddsoddi mewn 3 ffordd:
- 50 – 70% mewn cwmnïau rhestredig a Bondiau Corfforaethol y Llywodraeth
- 10 – 30% mewn eiddo yn gyfyngedig i weithredoedd o fudd i?r economi Cymreig
- 5 – 20% mewn cwmnïau cynhenid Gymreig
Un o‘r ffactorau a fydd yn gwneud y gronfa yma yn wahanol i gronfeydd buddsoddi eraill yw y byddai prosesau mewn lle i adnabod busnesau newydd, addawol ar draws Cymru, ac felly‘n amlygu cyfleoedd na fyddai?r buddsoddwr cyffredin yn dod ar eu traws fel arall.
I grynhoi felly, byddai‘r gronfa nid yn unig yn darparu cyfle i fuddsoddi ar sail fasnachol ond trwy wneud hynny byddai hefyd yn cyfrannu at ffyniant yr economi yng Nghymru.
