Menter a Busnes



 

Prosiectau

Iaith Economi

Rhaglen Waith

Rhaglen Waith Datblygu Economaidd a'r Iaith Gymraeg

Dros y flwyddyn a hanner diwethaf bu‘r Grŵp Trafod Iaith Economi yn datblygu Rhaglen Waith Datblygu Economaidd a‘r Iaith Gymraeg.

Nod y Rhaglen Waith yw creu budd economaidd ac ieithyddol o ddwyn agweddau o ddatblygu economaidd a datblygu ieithyddol ynghyd. Anelir at gynyddu dealltwriaeth o‘r maes ac ysgogi gweithredu ymarferol. Bydd yn adeiladu ar yr hyn sy‘n bodoli eisoes ym meysydd datblygu economaidd a datblygu ieithyddol er mwyn ychwanegu gwerth at y ddau.