Menter a Busnes



 

Prosiectau

Priosect Perthnasol:

Case Study: Teulu Dafydd, Parc, Y Bala

Wyau Moi Parc
01678 540249

Mae grwp o bobl ifanc o'r Bala wedi profi bod ysbryd mentrus yn gallu rhedeg yn y teulu. Ceisiodd pedwar aelod o'r un teulu am gymorth o dan gynllun Llwyddo'n Lleol, ac er gwaethaf cystadleuaeth fawr, bu'r pedwar yn llwyddiannus!

"Cefais alwad ffôn gan ddynes yn holi am bump o ffurflenni cais Bwrsariaeth Llwyddo'n Lleol i'w phlant. Doeddwn i ddim wedi dychmygu y buasem yn derbyn cymaint o'r ffurflenni cais yn ôl, ac yn bendant ddim o'r fath safon" meddai Nia Swann o Llwyddo‘n Lleol.

Daeth y cais cyntaf gan Moi, aelod ieuengaf y teulu sy‘n 14 oed. Roedd ganddo gynlluniau cyffrous i gynhyrchu wyau organig yn ei amser sbâr. Dychwelodd Moi gynllun busnes trawiadol iawn a oedd yn dangos ei fod wedi rhoi ystyriaeth fanwl i‘w syniad busnes.

Ar yr un pryd, cyflwynodd Heledd, chwaer Moi ei chais. Trwy‘i gwaith fel adferiedydd chwaraeon ac fel darlithydd tylino‘r corff profiadol, gwelodd hithau yr angen am olew naturiol i dylino‘r corff. Roedd hi‘n awyddus felly i ddechrau cynhyrchu‘r olew, ac am brynu‘r offer oedd ei angen arni i wneud hynny.

"Ro'n i wedi ymchwilio'r farchnad yn drylwyr, ac yn hyderus y buasai'r syniad yn llwyddo", meddai Heledd, "ond roeddwn i'n cael trafferth i godi'r arian oedd ei angen i brynu'r offer cychwynnol. Mae'r cyfraniad gan fwrsariaeth Llwyddo'n Lleol wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddechrau'r busnes."

Yn fuan wedyn cyflwynwyd dau gais newydd i banel y fwrsariaeth. Cyflwynodd Rhiannon Dafydd gynllun busnes ardderchog i ddechrau busnes cyfieithu, ac roedd ei brawd Dafydd Elis am wireddu cynllun i gynhyrchu pren ar gyfer ‘kindling‘ a barbiciws allan o bren sbâr o fferm ei rieni. Yr hyn oedd yn drawiadol am ei syniad oedd ei fwriad i gynhyrchu fersiwn wedi ei sentio gan ddefnyddio‘r perlysiau gwastraff o fusnes olew Heledd!

"Fel panel, roeddem wedi dechrau edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau gan y teulu yma. Roedd eu syniadau yn rhai gwreiddiol a diddorol, ac roeddynt wastad yn rhoi cymaint o ymdrech i mewn i'w ceisiadau" meddai Llyr Huws Gruffydd o banel y fwrsariaeth.

Case Study: Teulu Dafydd, Parc, Y Bala