Eleanor Gardener
Style-ID
Bangor
07876793825
info@style-id.co.uk
Clywodd Eleanor Gardner am y Ffatri Fenter gan ei ffrind a oedd yn gyn-gleient i'r Ffatri Fenter. Aeth ar y wê a darllen amdanom, a sylweddoli mai dyma'r union math o gymorth yr oedd hi'n chwilio amdano. Roedd ganddi eisiau dechrau ei menter fel "steilydd dillad personol".
Wedi cyfnod yn Llundain yn astudio Technoleg Dylunio Ffasiwn a Thecstiliau yng Ngholeg Ffasiwn a gweithio gydag enwau mwya‘r byd ffasiwn, dechreuodd deimlo‘n hyderus y byddai ganddi rhywbeth arbennig i‘w gynnig i Gymry gan fod ganddi‘r wybodaeth ecsgliwsif yn syth o Lundain.
"Ar y dechrau roeddwn yn teimlo'n hynod gyffrous, ond roeddwn yn gwybod fod yn rhaid imi ddilyn pethau drwyddo'n iawn. Roeddwn yn awyddus iawn i ddod yn ôl i Gymru gan fod angen y math yma o wasanaeth ar bobl Cymru. Mi allaf gynnig lot iddyn nhw."
Mae Eleanor wedi sefydlu Style-ID ers mis Mai 2006. Mae ganddi lawer o gysylltiadau o fewn y byd teledu, ac wedi llwyddo i dorri drwyddo a gweithio fel steilydd dillad cyflwynwyr ac actorion.
"Mi fuaswn i wedi dechrau busnes fy hun, p'run bynnag, ond roedd cael y Ffatri Fenter yn fy nghynorthwyo yn codi fy hyder i wrth ddatblygu'r syniad. Roedd y cyd-lynnydd yno imi bob tro i fy helpu."
Cafodd Eleanor gymorth i ysgrifennu cynllun busnes a chymorth gyda rhagolygon ariannol. Ond y grant marchnata oedd o fwyaf o help iddi.
"Roedd gwybod fod cymorth ariannol i'w gael yn gymaint o rhyddhad; ni fuaswn i byth wedi medru talu allan o fy mhoced fy hun. Roedd y deunyddiau marchnata yn ddrytach na'r disgwyl."
Wrth weithio gyda dylunydd graffeg lleol, mae Style-ID wedi datblygu brand hynod broffesiynnol a hunaniaeth unigryw. Gweithiodd gyda cleient arall y Ffatri Fenter ar y wefan, sef Owain Searell, amalgam. Mae hi wrthi hefyd yn trefnu parti lawns yng Nghaerdydd er mwyn hyrwyddo Style-ID. Teimla braidd yn rhwystredig nad oes ganddi ddigon o amser ar ei dwylo i hyrwyddo‘r ochr siopwr personol o‘r busnes.
Tydi hi ddim wedi bod yn broses hawdd, ond fe ddywedodd fod gweithio gyda busnesau mawr a bach yn Llundain wedi bod o help iddi baratoi‘i hun ar gyfer y straen.
"Dwi dal yn poeni am bethau fel TAW a insiwrans gan nad ydw i'n dda iawn efo ffigyrau! Ffigyrau ydi'r elfen mwyaf brawychus o ddechrau busnes!"
Cyhoedda mai‘r hyblyglwydd yw‘r elfen mwyaf positif o weithio iddi hi ei hun. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio ar brosiectau amrywiol.
"Mae pob dydd mor wahanol. Dwi wrth fy modd."
