Ellis Wyn Jones
Palet
Penygroes
01286 881529 / 07775770980
info@palet.co.uk
Cefndir yn gweithio fel rhedwr, gyrrwr loriau a dyn set gyda chwmnïau teledu sydd gan Ellis Wyn Jones. Yn ddealladwy felly, pan roedd o‘n cysidro camu allan o‘r diwydiant teledu i fyd peintio ac addurno, roedd yn teimlo‘n nerfus iawn. Daeth Ellis i sylweddoli nad oedd cymaint o waith ar ei gyfer yn gweithio i‘r cyfryngau, felly gwelodd gyfle i weithio iddo fo‘i hun ar y cyd.
Cyn pen dim, roedd Ellis yn gweithio fwy neu lai yn llawn amser ar y busnes gan fod y gwaith yn llifo mewn yn gyson a chyflym.
"Cyn cychwyn, es i allan i'r siopau lleol gyda ffleiars wedi'i gwneud yn broffesiynol ac ymweld â siopau gwerthu tai ac ati er mwyn hyrwyddo fy hun. Mae gen i gysylltiadau da efo adeiladwyr a phlymwyr hefyd. Mae pethau'n mynd yn dda iawn."
Teimla Ellis fod y Ffatri Fenter wedi bod o help mawr iddo. Derbyniodd dau wahanol grant yn cynnwys grant marchnata a aeth tuag at ddatblygu brand trawiadol. Hefyd, derbyniodd grant hyfforddiant er mwyn talu i fynd ar gwrs Iechyd a Diogelwch a chwrs nos Dylunio Fewnol.
"Heb gymorth y Ffatri, byddai wedi bod yn llawer mwy o frwydr. Roedd gan y cydlynydd gysylltiadau da megis lle i fynd am gardiau busnes a dylunio logo o safon ac ati. Roedd benthyciad di-log ar gyfer prynu gliniadur yn werthfawr iawn."
Mae Ellis yn cyfaddef bod rhedeg busnes yn golygu llawer o waith, ond gydag arweiniad y Ffatri Fenter, dywedodd mai dechrau busnes ei hun yw‘r peth gorau sydd wedi digwydd iddo.
"Nawr, mae gen i lawer mwy o hyder efo pob dim, yn enwedig hyder yn fy hun. Mae'n ffordd dda o ddod i adnabod pobl eraill, ond yn fwy na hynny dwi'n adnabod fy hun yn well."
Cafodd Palet ei gyfeirio ymlaen i‘r Rhaglen Datblygu Cyflenwyr Lleol.
