Paul Elson
RPM Cycling, Bwcle
07816 877211
Mae Paul Elson o Fwcle yn dathlu lansiad ei fusnes newydd lle mae'n ymgymryd â'r busnes yn ei amser hamdden. Mae Paul yn gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd gyda Gwasanaethau Hamdden Sir y Fflint a gyda chefnogaeth ei gyflogwyr, sydd wedi caniatáu Iddo leihau ei oriau gweithio, mae Paul wedi sefydlu dosbarthiadau seiclo stiwdio (spinning®) ei hunan
Mae Seiclo stiwdio yn gysyniad newydd ym maes ffitrwydd sydd ar hyn o bryd yn profi cynnydd mawr iawn yn ei boblogrwydd. Cafodd y syniad ei gyflwyno i‘r DU o America tua diwedd y 1990‘au ac mae wedi ei seilio ar y syniad o seiclo ar feic sefydlog i gerddoriaeth o dan hyfforddiant.
Cafodd y busnes a elwir yn RPM Cycling ei lansio yn swyddogol yng Nghanolfan Hamdden Bwcle ar Awst 31ain gan yr AC lleol, Carl Sargeant. Bydd Paul yn trialu y busnes am gyfnod o 6 mis ochr yn ochr â‘i waith rhan amser. Dywedodd Paul,
"Rwyf yn ddiolchgar iawn i wasanaethau Hamdden Sir y Fflint am fod mor gefnogol. Heb eu hyblygrwydd hwy byddai'r syniad busnes hwn heb fod yn bosib. Mae'n annhebygol y buaswn wedi mentro gyda'r syniad pe bawn i wedi gorfod rhoi'r gorau i fy swydd yn gyfan gwbl"
Derbyniodd Paul gymorth drwy brosiectau cyn cychwyn busnes swyddfa Menter a Busnes y Wyddgrug; BOS 18-30 a‘r Ffatri Fenter.
