Menter a Busnes



 

Prosiectau

Rheoli ffermydd gyda Thechnoleg Gwybodaeth

Beth yw'r Prosiect?

Mae Menter a Busnes yn cyd weithio gyda rhwydwaith o golegau addysg bellach yng Nghymru er mwyn datblygu sgiliau cyfrifiadurol aelodau o deuluoedd fferm. Cynigir hyd at 6 ymweliad dwy awr o hyd ar y fferm er mwyn cynorthwyo ffermwyr i wneud y defnydd gorau o‘r cyfrifiadur er mwyn rheoli eu busnesau.

Pam mae'n bodoli?

Mae‘n rhan o gynllun ehangach o dan faner Lywodraeth Cynulliad Cymru lle cynigir hyfforddiant cyfrifiadurol yn rhad ac am ddim i ffermwyr. Bydd y prosiect hwn yn dod i ben ar ddiwedd Medi 2008.

Sut mae'n gweithio?

Penodwyd rhwydwaith o Fentoriaid trwy Gymru, sydd yn mynd allan i ffermydd, gyda‘r bwriad o sicrhau fod ffermwyr yn defnyddio yr hyn a ddysgwyd ar gyrsiau cyfrifiadurol ac yn defnyddio unrhyw feddalwedd amaethyddol i‘w llawn botensial. Gall Menter a Busnes gynnig cymorth hyfforddi IT mewn tair ffordd benodol.

Yn gyntaf drwy fentora rhai sydd wedi cwbwlhau cyrsiau gyda‘r colegau i wneud defnydd pellach o‘u cyfrifiaduron ym musnes y fferm. Bydd rhain yn gallu cael 6 ymweliad 2 awr i‘w cynorthwyo i roi yr hyn ddysgwyd ar y cwrs ar waith.

Yn ail mae modd i unigolion sydd a rhwystr rhag mynd ar gwrs allu cael hyfforddiant un i un ar y fferm er mwyn eu galluogi i oresgyn y rhwystr hwnnw a mynd ar gwrs gyda un o‘r colegau maes o law. Mae hyd at 8 ymweliad 2 awr ar gael ar gyfer hyn. Mae angen llenwi ffurflen asesu er mwyn cael y gwasanaeth yma.

Y trydydd rhan o‘r gwasanaeth sydd ar gael ydi hyfforddiant ar gyfer defnyddio rhaglenni meincnodi sydd ar gael i fusnesau fferm. Gellir cael 4 sesiwn mentora o 2 awr ar gyfer hyn. Mae cynlluniau meincnodi ar gael gan Hybu Cig Cymru, Y ganolfan Datblygu Llaeth, Gelli Aur ynghyd a Chanolfan Oragnig Cymru Aberystwyth.

Ble mae ar gael?

Mae ar gael i unrhyw ffarm wedi‘i lleoli yng Nghymru.

Cyrsiau Cyfrifiaduron

Yn ogystal a hyn mae Menter a Busnes yn rhedeg cyrsiau cyfrifiaduron yng Ngwynedd a De Powys.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a:

eirwen@menterabusnes.co.uk

01970 636295