Menter a Busnes



 

Amdanom Ni

Telerau ac Amodau

Termau ac Amodau ar gyfer defnydd o wefan Menter a Busnes

Croeso i‘n gwefan. Os yr ydych yn parhau i bori a defnyddio‘r wefan hon yr ydych yn cytuno i‘r termau a‘r amodau isod, sydd ynghyd a‘n polisi preifatrwydd yn rheoli perthynas Menter a Busnes gyda chi yng nghyswllt y wefan hon.

Mae‘r term ‘Menter a Busnes‘ neu ‘ni‘ yn cyfeirio at berchennog y wefan sydd a‘i swyddfa gofrestredig yn Uned 3, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH. Mae‘r term ‘chi‘ yn cyfeirio at y defnyddiwr neu wyliwr y wefan.

Mae‘r defnydd o‘r wefan hon yn ddibynnol ar y telerau defnydd isod:

  • Mae cynnwys tudalennau‘r wefan ar gyfer gwybodaeth a defnydd cyffredinol yn unig. Mae‘n gallu newid heb rybudd.
  • Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti yn rhoi unrhyw warant ar gyfer cywirdeb, prydlondeb, perfformiad, cyflawnrwydd neu addasrwydd y wybodaeth ac unrhyw ddeunydd sy‘n cael ei chanfod neu ei gynnig ar y wefan hon ar gyfer unrhyw bwrpas penodol. Yr ydych yn cydnabod y gallai‘r wybodaeth neu‘r deunydd ar y wefan gynnwys gwallau neu anghywirdebau, ac yr ydym ni yn benodol yn eithrio atebolrwydd ar gyfer unrhyw wallau neu anghywirdebau hyd at eithaf y gyfraith.
  • Mae‘ch defnydd chi o unrhyw wybodaeth neu ddeunydd ar y wefan ar eich risg chi yn llwyr, ac ni fyddwn yn atebol am hyn. Eich cyfrifoldeb chi fydd i sicrhau bod unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael drwy‘r wefan hon, yn cwrdd â‘ch gofynion penodol chi.
  • Mae‘r wefan hon yn cynnwys deunydd sydd yn berchen neu wedi ei drwyddedi i ni. Mae‘r deunydd yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, ddyluniad, gosodiad, edrychiad, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir atgynhyrchu, heblaw mewn cytundeb â rhybudd hawlfraint, sydd yn ffurfio rhan o‘r termau a‘r amodau hyn.
  • Mae‘r holl nodau masnach sydd ddim yn eiddo i nac wedi ei drwyddedu i‘r gweithredydd yn cael eu cydnabod ar y wefan.
  • Gall defnydd anawdurdodedig o‘r wefan arwain at gais am iawndal a/neu fod yn drosedd.
  • Mae‘n bosib fydd y wefan yn cynnwys dolenni cyswllt i wefannau arall o bryd i‘w gilydd. Mae‘r dolenni hyn yn cael eu darparu er eich cyfleustra er mwyn darparu gwybodaeth bellach i chi. Nid yw yn arwydd ein bod ni yn ardystio‘r gwefannau hyn. Does gennym ni ddim cyfrifoldeb dros gynnwys y wefan/gwefannau cyswllt.
  • Ni allwch greu dolen gyswllt i‘r wefan hon o unrhyw wefan arall heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol Menter a Busnes.
  • Mae eich defnydd chi o‘r wefan ac unrhyw anghydfod sy‘n codi oherwydd defnydd o‘r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.