Polisi Preifatrwydd Gwefan ‘Menter a Busnes‘
Mae‘r Polisi Preifatrwydd yn nodi sut mae ‘Menter a Busnes‘ yn defnyddio ac yn gwarchod unrhyw wybodaeth yr ydych chi yn ei rhoi i ‘Menter a Busnes‘ pan fyddwch yn defnyddio‘r wefan.
Mae ‘Menter a Busnes‘ yn ymrwymedig i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei amddiffyn. Os ydym yn gofyn i chi am unrhyw wybodaeth sy‘n golygu y gallwch gael eich adnabod wrth ddefnyddio‘r wefan, gallwch fod yn sicr ei fod yn cael ei ddefnyddio o fewn canllawiau‘r datganiad hwn.
Mae‘n bosib y bydd ‘Menter a Busnes‘ yn newid y polisi hwn o bryd i‘w gilydd drwy ddiweddaru‘r dudalen hon. Dylech wirio‘r dudalen bob hyn a hyn, er mwyn sicrhau eich bod yn hapus gyda‘r newidiadau. Mae‘r polisi yn effeithiol o 12 Ebrill 2007.
Beth fyddwn yn ei gasglu
Fe allwn gasglu‘r wybodaeth isod:
- Enw
- Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost
- Unrhyw wybodaeth arall sydd yn berthnasol i arolygon a/neu gynigion cwsmeriaid.
Beth fyddwn yn gwneud gyda'r wybodaeth fyddwn yn casglu?
Mae angen y wybodaeth arnom er mwyn deall eich anghenion, ac i ddarparu gwell gwasanaeth i chi, yn benodol ar gyfer y rhesymau isod:
- I gadw cofnodion mewnol
- Gallwn ddefnyddio‘r wybodaeth i wella ein cynnyrch a‘n gwasanaethau.
- Mae‘n bosib y byddwn yn anfon e-byst hyrwyddol i chi o bryd i‘w gilydd ynglyn â chynnyrch newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall a all fod o ddiddordeb gan ddefnyddio‘r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych.
- O bryd yw gilydd, mae‘n bosib byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi ar gyfer dibenion ymchwil marchnad. Mae‘n bosib y byddwn yn cysylltu gyda chi ar e-bost, ffôn, ffacs neu drwy‘r post. Mae‘n bosib y byddwn yn defnyddio‘r wybodaeth i addasu‘r wefan yn ôl eich anghenion.
Gwarchodaeth
Yr ydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig, mae gennym brosesau electroneg a rheolaethol yn eu lle er mwyn diogelu‘r wybodaeth fyddwn yn casglu ar lein.
Sut fyddwn ni'n defnyddio cookies
Ffeil bach ydy cookie sydd yn gofyn caniatâd i gael ei rhoi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith i chi gytuno i hyn, fe atodir y ffeil ac mae‘r cookie yn cynorthwyo i ddadansoddi traffig y wê (web traffic) neu adael i chi wybod pryd yr ydych yn ymweld â gwefan penodol. Mae cookie yn galluogi cymhwysiad gwê i ymateb i chi fel unigolyn. Gall y cymhwysiad gwê deilwra ei weithredoedd i‘ch anghenion a‘ch hoffterau neu eich anhoffterau chi drwy gasglu a chofio gwybodaeth ynglyn â‘ch dewisiadau.
Yr ydym yn defnyddio cookies log traffig er mwyn adnabod pa dudalennau sydd yn cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein cynorthwyo i ddadansoddi data ynglyn â thraffig tudalennau‘r wefan ac i wella ein gwefan a‘i theilwra i anghenion cwsmeriaid. Defnyddir y wybodaeth hon ar gyfer dibenion dadansoddi ystategol yn unig ac wedyn fe dynnir y data oddi ar y system.
Yn gyffredinol mae cookies yn golygu y gallwn ddarparu gwell gwefan i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sydd yn ddefnyddiol i chi a pha rhai sydd o ddim defnydd i chi. Nid yw cookie mewn unrhyw ffordd yn caniatau i ni gael mynediad i‘ch cyfrifiadur nac unrhyw wybodaeth amdanoch chi, heblaw am ddata yr ydych wedi dewis rannu gyda ni.
Gallwch ddewis derbyn, neu beidio â derbyn cookies. Mae rhan fwyaf o borwyr y Wê yn derbyn cookies yn awtomatig, ond gallwch fel arfer addasu eich gosodiadau pori i beidio â derbyn cookies os mae dyna eich dewis. Wrth wneud hyn mae‘n bosib na fyddwch yn medru cymryd mantais lawn o‘r wefan.
Dolenni cyswllt i wefannau eraill
Mae‘n bosib y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith i chi ddefnyddio‘r dolenni cyswllt hyn i adael ein gwefan, dylid nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Ni allwn fod yn gyfrifol felly am ddiogelwch na phreifatrwydd unrhyw wybodaeth yr ydych chi‘n ei rhoi wrth ymweld â gwefan o‘r fath, ac nid yw gwefannau o‘r math yma yn cael eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech gymryd gofal, a gwneud yn siwr eich bod yn edrych ar y datganiad preifatrwydd sydd yn berthnasol i‘r wefan dan sylw.
Rheoli eich gwybodaeth bersonol
Gallwch ddewis rhwystro neu gyfyngu‘r wybodaeth bersonol a gesglir amdanoch yn y ffyrdd canlynol:
- Pan ofynnir i chi i lenwi ffurflen ar y wefan, edrychwch am focs y gallwch glicio arno i nodi nad ydych eisiau i‘r wybodaeth fyddwch yn ei darparu gael ei ddefnyddio gan unrhyw un at ddibenion marchnata uniongyrchol.
- Os ydych wedi cytuno yn flaenorol, eich bod yn fodlon i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol, gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu atom neu ein e-bostio ar gwefan@menterabusnes.co.uk
- Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu neu logi eich gwybodaeth bersonol i drydydd barti, onibai ein bod wedi cael eich caniatâd, neu oherwydd gofynion y gyfraith. Mae‘n bosib y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddol i chi am drydydd parti yr ydym yn credu bydd o ddiddordeb i chi, os ydych wedi cadarnhau eich bod yn dymuno i ni wneud hynny.
Gallwch ofyn am fanylion am wybodaeth bersonol a ddelir amdanoch o dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998. Mi fydd ffi bach yn daladwy. Os hoffech gael copi o‘r wybodaeth sydd wedi ei gadw amdanoch ysgrifennwch at:
Menter a Busnes, Y Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH
Os credwch fod unrhyw wybodaeth fyddwn yn cadw amdanoch yn anghywir neu yn anghyflawn, yna ysgrifennwch neu e-bostiwch ni cyn gynted â phosib i‘r cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wallau yn syth.
