Menter a Busnes



 

Mabis

Gwasanaethau Adnoddau Dynol

Gwasanaethau Adnoddau Dynol Mabis

Mabis HR - yn cynnig atebion blaengar Adnoddau Dynol i'ch busnes chi gan gynnwys:

  • Gwaith ymgynghorol cyffredinol
  • Gwobrwyo, gan gynnwys arolygon cyflog, sustemau graddfeydd cyflog, buddiannau
  • Rheoli Perfformiad gan gynnwys systemau bonws ac arfarnu
  • Strategaeth Adnoddau Dynol, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol
  • Datblygu pobl a rheoli talent
  • Rheoli absenoldeb
  • Sefydlu sustemau Adnoddau Dynol a rheoli llinell
  • Dadansoddi anghenion hyfforddi a datblygu
  • Hyfforddiant mewn prosesau a dulliau Adnoddau Dynol a Datblygu Pobl
  • Cyfraith cyflogaeth, yn cynnwys cytundebau, telerau ac amodau gwaith, disgyblu a chwynion a chyfle cyfartal
  • Recriwtio a dewis staff
  • Anwytho staff
  • Monitro a Gwerthuso ymgyrchoedd Adnoddau Dynol a Datblygu Pobl

Ein harbenigedd yw‘r gallu i gynghori ar bob agwedd o Adnoddau Dynol yn ddwyieithog gan gynnwys ystod o wasanaethau. Gall y gwasanaeth amrywio o weithredu ymarferol i‘ch cynorthwyo i gael y gorau o‘ch staff neu gynllunio strategol sydd yn gallu dadansoddi eich anghenion a llunio cynllun Adnoddau Dynol sydd yn cefnogi datblygiad a chyfeiriad y busnes.