Menter a Busnes



 

Newyddion a Digwyddiadau

Entrepreneur o Fôn yn cipio gwobr Gorsedd y Dreigiau

Guto Roberts, Entrepreneur ifanc o Fôn oedd enillydd cyntaf cystadleuaeth i sefydlu busnes newydd a gynhelir yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae cystadleuaeth Gorsedd y Dreigiau wedi ei seilio ar y gyfres deledu poblogaidd ‘Dragon‘s Den‘.

Gwahoddwyd entrepreneuriaid i gyflwyno eu syniadau busnes i banel o ‘Ddreigiau‘ Cymraeg mewn gornest i ennill i fyny at £5000 ynghyd â cyngor busnes proffesiynol i helpu i droi y syniad yn realiti.

Yr entrepreneur ar y brig eleni oedd Guto Roberts o Benllech, Ynys Môn a gyflwynodd syniad busnes ar gyfer cwmni trwsio byrddau syrffio. Elen Wyn Lloyd o Lanfair Dyffryn Clwyd ger Ruthun a sydd am sefydlu busnes sy‘n cyfuno ffitrwydd personol gyda‘r amgylchedd naturiol oedd yn ail; ac yn drydydd oedd Shelley Rees sy‘n gobeithio sefydlu meithrinfa cyfrwng Cymraeg yn Abertawe.

Trefnwyd y gystadleuaeth gan y cwmni datblygu economaidd Menter a Busnes ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad, a gyda chymorth cwmni teledu Telesgôp. Cyflwywyd y sesiwn yn broffesiynol iawn gan Daloni Metcalfe.

Dywedodd Prif Weithredwr Menter a Busnes, Alun Jones: “Bu‘n gystadleuaeth llwyddiannus iawn a ddenodd lu o syniadau busnes newydd sy‘n dangos brwdfrydedd ac ysbryd menter y Cymry, hyd yn oed mewn adegau economaidd anodd fel hyn“.

”Roedd y beirniaid yn hapus iawn gyda safon y cystadlu, ac yn wir ddaru un o‘r ‘Dreigiau‘ gynnig buddsoddi‘n bersonol mewn un menter.

Y beirniaid (neu‘r Dreigiau!) oedd Gari Wyn (cyd sylfaenydd a pherchennog cwmni Ceir Cymru), Margaret Thomas (cyd sylfaenydd a pherchennog cwmni Cig Oen Aran, Llanuwchllyn) Alun Roberts (un o gyfarwyddwyr cwmni ymgynghorwyr busnes Maneg) ac Elin Rhys (Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Telesgop).

Dirprwy Brif Weinidog Cymru Ieuan Wyn Jones AC cyflwynodd y gwobrau a dymunodd yn dda i‘r entrepreneuriaid ar eu gorchest.

 

 

 

Entrepreneur o Fôn yn cipio gwobr Gorsedd y Dreigiau

Dirprwy Brif Weinidog Cymru Ieuan Wyn Jones gyda enillydd y gystadleuaeth Guto Roberts, Elen Wyn Lloyd, Shelley Rees a Alun Jones (Menter a Busnes)