Mae Eurig Jenkins yn ffermwr llaeth ifanc uchelgeisiol, sy’n bwrw ymlaen gyda’i gynlluniau i ehangu gyda help Cyswllt Ffermio. Eurig, 29, a’i dad Aeron sy’n ffermio 140 erw Fferm Pentrefelin yn Nhalsarn ger Llanbedr Pont Steffan, un o Ffermydd Arddangos y Rhaglen Datblygu Llaeth, ac yn y blynyddoedd diwethaf, bu’n rhentu 440 erw o dir ychwanegol yn yr ardal
Ar hyn o bryd, mae’n cymryd teirawr i odro’r 270 o wartheg, ac am ei fod yn bwriadu cynyddu nifer y gwartheg godro i 380 dros y ddwy flynedd nesaf, roedd Eurig yn benderfynol o edrych ar ffyrdd o leihau’r amser godro. Fe’u cynghorwyd i gofrestru ar gyfer Cynllun y Fferm Gyfan gan Cyswllt Ffermio - sy’n cynnig cymorth un-i-un cymorthdaledig er mwyn helpu busnesau fferm i ddatblygu – ac mae’r ddau’n falch iawn iddynt wneud hynny.
Cyngor Tony Evans o Andersons oedd ehangu’r parlwr godro ‘swing’ 20x40 presennol a adeiladwyd saith mlynedd yn ôl. Awgrymodd hefyd i Eurig wneud cais am grant o dan y Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid (YESS) Llywodraeth y Cynulliad, tuag at y gost o £90,000 am yr estyniad i’r parlwr. Mae’r grant bellach wedi’i gymeradwyo.
Lluniwyd y cynllun i gynnig cefnogaeth, arweiniad a chymorth grant i annog pobl ifanc i weithio yn y diwydiant. Dywedodd Eurig, “Gan fy mod i o dan 40 oed a newydd gymryd cyfrifoldeb fel pennaeth y daliad, rwy’n gymwys i dderbyn grant o £15,000 tuag at y gost o ymestyn y parlwr. Bydd hwn yn help i mi ddatblygu fy nghynlluniau i ehangu, gan gynnal yr olyniaeth yn y busnes a diogelu gwaith i weithiwr fferm.
“Lluniwyd cynllun busnes manwl fel rhan o Gynllun y Fferm Gyfan a chychwynnais y broses o ychwanegu ‘swing’ 44x88 at y parlwr. Golyga hyn y byddwn yn gallu godro 240 buwch yr awr, a ddylai helpu i leihau fy nghostau, cynyddu elw a rhoi mwy o amser i mi gyflawni gwaith arall o gwmpas y fferm. Rwy’n gobeithio y bydd y parlwr mwy o faint wedi’i adeiladu ac ar waith erbyn mis Chwefror.” Dywedodd fod y parlwr a’r estyniad ar gynllun a welodd wrth deithio o gwmpas ffermydd yn Seland Newydd ar ôl ennill Ysgoloriaeth Deithio Gareth Raw-Rees/NFU Cymru tua 8 mlynedd yn ôl.
Meddai Tony Evans, “Mae gan Aeron ac Eurig system hawdd i’w rheoli sy’n gweithio ar safon uchel gydag anifeiliaid o ansawdd da. Ers blynyddoedd, maent wedi bod yn lloia’n y gwanwyn o fewn system mewnbwn isel, a fu’n llwyddiant mawr. Mae’r tir ychwanegol wedi’u galluogi i ailadrodd eu model busnes llwyddiannus a chynyddu nifer y gwartheg heb orfod ffermio’n ddwys ar eu tir eu hunain.”
Dywedodd fod y cynllun YESS wedi ymddangos ar yr union adeg iawn i Eurig gael grant i’w helpu i ddatblygu’r busnes er mwyn cynnal y genhedlaeth nesaf ar y fferm.
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
09 Hydref 2012
-
14 Medi 2012
-
14 Medi 2012
-
12 Medi 2012
-
30 Awst 2012
