Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Peter Edwards

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma

Creu a gwerthu celf gwreiddiol ac argraffiadau cyfyngedig

Wedi graddio ym Mhrifysgol Gaerdydd, mae Peter sy’n wreiddiol o Gaergybi, wedi gweithio mewn amryw o faesydd yn cynnwys fel Uwch Beiriannydd. Gweithiodd yn y maes yma am dros pymtheg mlynedd tan iddo deimlo ei fod angen newid cyfeiriad ei yrfa. Arweiniodd y newid yma Peter I hyfforddi fel ddeifiwr SCUBA cymwysiedig a symudodd i Sharm El Sheikh, Yr Aifft I ddilyn y gyrfa ymhellach. Tra yn deifio, dechreuodd Peter dynnu llyniau o’r bywyd môr yn y Môr Coch. Yn fuan, gwelodd Peter fod modd gwerthu’r lluniau yma a gwneud bywiolaeth o Ffotograffiaeth. Wedi teithio ar draws gwledydd ac ardaloedd egsotig fel Barbados a chwblhau cymwysterau fel ‘RYA Commerical Yacht Master’, dychwelodd Peter i Gaergybi.

Wedi dychwelyd, dechreuodd Peter feddwl am wahanol ffyrdd y gallai cyfuno ei sgiliau gwaith celf a ffotograffiaeth a’r cymwysterau deifio a hwylio I greu busnes.

Mae’r gallu ganddo i ddefnyddio y llyniau a dynnwyd dan y môr a’i trawsffurfio gan ddefnyddio ei sgiliau artistig. Eglur ai Elen Foulkes (Cydlynnydd Ffatri Fenter) ‘Ar ôl gweld enghreiffitau o’i waith gwyddai Ffatri Fenter fod ganddo y sgiliau i gychwyn y busnes a’r hyder i lwyddo’.

Er fod ganddo rhanfwyaf o’r offer angenrheidiol, roedd angen rhagor ohynynt. Yn ogystal, roedd angen cwbwlhau rhagolwg ariannol a help gyda ymchwil marchnata.

 Ar gyfer helpu Pete fe ddaru’r Ffatri ei gymorthi gyda’r uchod ond roedd un rhywstr arall yn ei wynebu- nid oedd ganddo’r gyllid i ddechrau’r busnes. Derbynodd Peter y cynnig o loan fychan er mwyn buddsoddi yn y busnes ond ar yr amod mai dim ond ar gyfer y busnes a wneir defnydd o’r arian. Cafodd ei gyfeirio at sefydliadau eraill er mwyn ceisio ennill grant, ond yn anffodus nid oedd llawer o help ar gael.

Er yr holl rhywstrau, drwy ddyfal barhad a help gan y Ffatri mae Peter wrthi yn blasu ei fusnes newydd wrth gael gwaith gan y Cyngor a gweithio ar liwt ei hun. Hefyd, mae’n gwneud defnydd o’r ‘stafell gyfarfod sydd yn Siop y Porth ar gyfer creu stiwdio ffotograffiaeth.

Os dymunwch ofyn am ragor o wybodaeth cystylltwch â Peter ar:  07906715159 

T   Swyddfa Bangor  - 01248 672 610

T   Swyddfa Caergybi - 01407 762 012

E :manon.llwyd@menterabusnes.co.uk

    elen.foulkes@menterabusnes.co.uk