Mae adran Plant, Addysg, Dysgu gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) o fewn Llywodraeth y Cynulliad yn darparu rhaglen ar gyfer busnesau preifat a thrydydd sector a enwir “Gweithdai Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth”.
Mae’r rhaglen bresennol yn rhedeg o’r 1af o Ebrill 2010 hyd at 31 Mawrth 2014.
Bwriad y rhaglen yw cynnig cyfleoedd datblygu sgiliau ar gyfer rheolwyr ar bob lefel, gan gynnwys arweinyddion tîm, rheolwyr iau, rheolwyr uwch, cyfarwyddwyr a phrif swyddogion cwmnïau, gyda’r bwriad fod y sgiliau a ddysgwyd yn gwella perfformiad y cwmni.
Yn dilyn proses dendro mae Llywodraeth y Cynulliad wedi penodi nifer fach o gwmnïau ym mhob rhanbarth i ddarparu’r gweithdai yma.
Fe benderfynodd Menter a Busnes gystadlu am y tendrau hyn ar y cyd gyda chwmni Learning to Inspire o swydd Caer (www.learningtoinspire.co.uk) sydd yn cyflawni ystod o waith hyfforddi yng Nghymru.
Fe gawsom ein dewis i ddarparu’r “Gweithdai Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth” ym mhob un o’r 4 rhanbarth Cymreig (Gogledd, Canolbarth, De Orllewin a’r De Ddwyrain)
Mae cymhorthdal o hyd at 70% ar gael i fusnesau tuag at gostau hyfforddi trwy’r rhaglen yma.
Fe gynhelir amrywiaeth o weithdai ‘agored’ ar gyfer unigolion a gweithdai ‘mewnol’ (o fewn cwmnïau)
Mae’r gost i’r mynychwyr yn amrywio yn ôl lefel yr hyfforddiant ac yn ôl maint y cwmni e.e.
Hyfforddiant Rheolaeth Lefel gweithredol
Cyfraniad yr Unigolyn (SME) £42 (+ TAW)
Cyfraniad yr Unigolyn (Cwmniau Mwy) £70 (+ TAW)
Hyfforddiant Rheolaeth Lefel strategol
Cyfraniad yr Unigolyn (SME) £57 (+ TAW)
Cyfraniad yr Unigolyn (Cwmniau Mwy) £95 (+ TAW)
Cwrs Mewnol Lefel gweithredol
Cyfraniad y Cwmni (SME) £420 (+ TAW)
Cyfraniad Cwmniau Mwy £700 (+ TAW)
Cwrs Mewnol Lefel Strategol
Cyfraniad y Cwmni (SME) £570 (+ TAW)
Cyfraniad Cwmniau Mwy £950 (+ TAW)
Byddwn yn hapus i drafod eich union anghenion a gweld os oes modd cynllunio cwrs pwrpasol. Ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol.