POLISI CYFARTALEDD AC AMRYWIAETH
Nod Menter a Busnes yw i ddarparu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo y gallant gyfrannu, cyfranogi, mwynhau a dylanwadu ar eu profiad, a ble mae arfer cynhwysol yn sail i bob peth a wneir gan y Cwmni. Bydd parch ac ystyriaeth tuag amrywiaeth unigol yn greiddiol yn strategaeth, cyfeiriad ac ymddygiad corfforaethol.
Mae Menter a Busnes yn ceisio adnabod a chael gwared ar unrhyw arfer sydd yn camwahaniaethu ar sail hil, anabledd, rhyw, ail-aseinio rhyw, oed, tueddfryd rhywiol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd a chred neu ddim cred, neu gefndir socio-economaidd.
Mae Menter a Busnes yn cydnabod bod cyfartaledd ac amrywiaeth yn cynnwys pob agwedd o gyflogaeth a darparu gwasanaethau yn cynnwys prosiectau cyhoeddus a masnachol a gweithgareddau eraill y Cwmni.
Mae Menter a Busnes yn ei wneud yn amod gwasanaeth bod staff a chontractwyr yn glynu at y Datganiad hwn o Gyfartaledd ac Amrywiaeth. Bydd unrhyw un sydd yn torri’r amod hwn yn wynebu gweithdrefn ddisgyblu’r Cwmni.
Mae Menter a Busnes yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ymgynghorwyr, unigolion a chwmnïau sydd yn darparu gwasanaeth ar ran y Cwmni yn ymwybodol o’r Polisi hwn. Os bydd unrhyw bolisi neu arfer anheg yn cael ei ddarganfod gan y Cwmni, gall hyn arwain at dorri cysylltiad a darfod gwneud busnes â hwy.
Mae Menter a Busnes yn:
- dosbarthu’r Polisi hwn yn eang ar draws y Cwmni
- yn darparu system o gefnogaeth i unigolion sydd yn teimlo eu bod yn wynebu camwahaniaethu e.e. aflonyddu hiliol neu rywiol.
- yn darparu hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth rheolwyr a staff o egwyddorion Cyfartaledd ac Amrywiaeth er mwyn sicrhau bod yr egwyddorion yn sail i bob agwedd o weithgaredd y Cwmni, gan gynnwys polisi, strategaeth a chyllunio yn ogystal a gwaith dydd-i-ddydd.
- yn sicrhau cyfartaledd o ran cyflogaeth trwy fonitro recriwtio, dethol, arfarnu, hyfforddi a datblygu a dyrchafu.
- yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod strwythurau, gwasanaethau, amgylchedd ffisegol ac adeiladau yn adlewyrchu anghenion staff, partneriaid, cwsmeriaid a chleientiaid Menter a Busnes.
- yn sicrhau bod strwythurau penderfyniadau yn cynnwys cynrychiolaeth briodol o staff (e.e. Panel Graddio Swyddi, Panel Hyfforddi ac ati)
- yn ymrwymo’i hun i adolygu a monitro polisïau a gweithdrefnau’r Cwmni yn rheolaidd gan y Pwyllgor Rheoli.
- yn rhagweithiol wrth sefydlu cysylltiadau gyda sefydliadau a grwpiau allanol sydd ag ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal er mwyn creu rhwydeith o gefnogaeth a chyfnewid gwybodaeth.
- yn adnabod yr adnoddau priodol er mwyn gwireddu’r amcanion hyn.
Y mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’r tîm Adnoddau Dynol os oes gennych unrhyw gonsyrn sydd o fewn cwmpas y polisi hwn, pa un a ydych yn aelod staff, yn ymgynghorydd llawrydd, partner, cleient neu gwsmer i’r Cwmni. Gellir trefnu cyfarfod cyfrinachol i drafod materion cysylltiol os dymunwch.
Copi or polisi ar gael isod.
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
