Pam Gweithio i Menter a Busnes?

Ethos mentrus a phositif sydd yn sicrhau bod cyfraniad Menter a Busnes at ddatblygiad yr economi yng Nghymru mewn nifer o wahanol sectorau yn un allweddol, gan gynorthwyo unigolion  a chwmniau bach a mawr i ychwanegu gwerth, i dyfu ac i ddatblygu eu potensial economaidd. Ceisiwn arwain y ffordd trwy edrych yn barhaus am gyfleoedd i ehangu ein gorwelion a’r gwasanaethau a gynigiwn er mwyn tyfu ein busnes.

Mae gan ein budd-ddeiliaid – cleintiaid, cyrff cyhoeddus a’r cyhoedd - ddisgwyliadau uchel o’n staff ac rydym yn cydnabod mai ein staff sy’n galluogi’r cwmni i ddarparu ein holl wasanaethau yn broffesiynol  ac i safon uchel.  Oherwydd hynny mae Menter a Busnes yn ymrwymo i ddenu , datblygu a chadw staff talentog trwy gynnig amodau gwaith deniadol:

  • Cyflogau cystadleuol
  • Cynllun pensiwn o ansawdd
  • Cynllun perfformiad gyda thâl cyrhaeddiad ychwanegol
  • Cyfleoedd i ddatblygu a hyfforddi
  • Polisïau a gweithdrefnau teg
  • Cynllun Ffitrwydd
  • Gweithle hwyliog lle mae bobl yn gweithio’n galed ac yn mwynhau
  • Cyfle i bobl ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg
  • Cyflogwr Safon Aur Buddsoddwyr Mewn Pobl

Dewch i ymuno â’r tîm!