Fel rhan ddathliadau ein pen-blwydd yn 21ain penderfynwyd rhoi gwedd newidiad i’n brand a’n delwedd!
Trwy weithio’n agos efo Hoffi, asiantaeth ddylunio yng Nghaerdydd, cafodd logo, delwedd a gwefan newydd eu datblygu er mwyn cadw i fyny efo’r diweddara am ein prosiectau a gweithgareddau.
Credwn fod y brand newydd yn ffres a bywiog i’r gwaith y cyflawnir, heb ddieithrio ein gwerthoedd ac egwyddorion cryf.
Byddem yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych am ein brand newydd, felly cysylltwch â ni os oes gennych sylwadau.
Os ydych chi’n bartner neu gleient sydd eisiau defnyddio ein brand newydd, cysylltwch â Clint Middleton i dderbyn ein canllawiau brandio a gwybodaeth ychwanegol.
Dyma’r logo newydd, helpwch ni ddiogelu’r brand.


