Amdanom Ni

Beth yw Menter a Busnes?

Rydym yn gwmni annibynnol gafodd ei sefydlu yn 1989 ac felly yn gweithredu ar sail 21 mlynedd o brofiad yn y maes.

Rydym yn gweithio ar sawl lefel gan gynnwys:

  • Cynllunio rhaglenni cymorth ein hunain ym maes datblygu busnes, mentergarwch, sgiliau ac arloesedd.
  • Darparu rhaglenni cymorth busnes ar ran sefydliadau eraill lleol a chenedlaethol.
  • Cyfrannu tuag at ddatblygiad polisi sy’n berthnasol i feysydd gwaith y cwmni.
  • Gwerthu rhai gwasanaethau masnachol i fusnesau (gweler Mabis).
  • Darparu gwasanaethau ymgynghorol masnachol ym maes datblygu economaidd a meysydd cysylltiol (gweler Mabis).

Sut rydym yn gweithio?

Gan mai darparu gwasanaethau (delivery) yw prif ffocws ein gweithgaredd mae llawer o’n gwaith mewn partneriaeth gyda sefydliadau a chwmnïau eraill, fel cyd ddarparwyr neu arianwyr.

Mae rhai prosiectau a gwasanaethau yn cael eu cynllunio gennym ni ac rydym yn eu hariannu yn uniongyrchol trwy geisio am arian Ewropeaidd neu sicrhau noddwyr eraill.  Mae canran o’n gwaith yn wasanaethau rydym wedi ennill yr hawl i’w darparu trwy broses tendro cystadleuol.  Hyd yn oed o fewn yr achosion hyn byddem yn ceisio cynllunio ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu’r gwasanaeth.

Mae’r ystod gwasanaethau a partneriaid yma yn golygu fod gennym rwydwaith eang iawn o gysylltiadau ar draws Cymru a thu hwnt.

Rydym wedi datblygu rhai gwasanaethau masnachol sy’n seiliedig ar ein profiad dros y blynyddoedd.  Mae rhain yn cynnwys gwasanaethau marchnata ac adnoddau dynol i fusnesau eraill ynghyd â gwasanaethau ymgynghorol yn y sector datblygu economaidd.

Mae’r staff cyflogedig i gyd yn hollol ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) a byddwn yn sicrhau fod ein gwasanaethau yn cael eu darparu yn ddwyieithog.

Yn lle rydym yn gweithio?

Mae’r mwyafrif o’n gwasanaethau yn cael eu darparu ar draws Cymru heblaw am rai brosiectau peilot neu raglenni ar ran awdurdodau lleol - ble mae’r ddarpariaeth ar gyfer ardaloedd daearyddol penodol.

O safbwynt ein gwasanaethau masnachol byddwn yn gweithio tu allan i Gymru yn ogystal, o fewn y deyrnas unedig yn bennaf gyda rhai cyfleodd i werthu ein harbenigedd dramor.

Mae gennym swyddfeydd yng Nghaergybi, Bangor, Aberystwyth (prif swyddfa) a Chaerdydd, a gan fod nifer o’n rhaglenni yn galw am ddarparwyr lleol mae nifer o staff yn gweithio o adre neu leoliadau eraill.

 

Mae ein holl wasanaethau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.